Sustain / Real Bread Campaign / About / Bakery support
Y Marc Torth Bara Go Iawn
Y Marc Torth Bara Go Iawn (The Real Bread Loaf Mark) yw’r arwydd a ddefnyddir gan y pobydd i roi sicrwydd yn syth i'r prynwr.
Cofrestrwch ar gyfer cynllun Marc Torth
Sut mae'n gweithio
Mae pobydd/manwerthwr yn llofnodi cytundeb blynyddol y bydd ef/hi ond yn defnyddio’r Y Marc Torth Bara Go Iawn i hyrwyddo'r hyn y mae'r Ymgyrch yn ei alw'n Fara Go Iawn (Real Bread) a Y Marc Torth Bara Surdoes (The Sourdough Loaf Mark) i hyrwyddo bara surdoes go iawn.
Yn syml, mae angen i chi chwilio am Y Marc Torth!
Beth yw Bara Go Iawn?
Mae'r Ymgyrch yn diffinio Bara Go Iawn (Real Bread) fel bara sy’n cael ei wneud gyda chynhwysion naturiol yn unig, heb ddefnyddio unrhyw gymhorthion prosesu, lefain cemegol neu ychwanegion eraill.*
Efallai bod hyn yn swnio'n ddigon syml ond wyddech chi fod tua 95-97% o'r torthau a werthir ym Mhrydain yn methu â chyrraedd y safon hynod o isel hon.
Darllenwch fwy am ymgyrch Real Bread
Beth yw surdoes?
Mae bara surdoes go iawn yn Fara Go Iawn sy’n defnyddio lefain surdoes byw yn unig i wneud i’r bara godi.
*Er hynny, ar hyn o bryd nid yw hyn yn cynnwys ychwanegion penodol fel fitaminau ac ati (fortificants), y mae’n rhaid i felinwyr yn y DU a rhai gwledydd eraill eu hychwanegu, yn ôl y gyfraith, i bob blawd bara fwy neu lai. Cliciwch yma am fanylion.
Yr hyn y dylai siopwyr edrych amdano
Dylai pobydd neu fanwerthwr arddangos Y Marc Torth Bara Go Iawn (gweler uchod) naill ai ar ddeunydd pecynnu’r cynnyrch neu silff/basged y cynnyrch y maen nhw'n addo sy’n rhydd o ychwanegion, a Y Marc Torth Bara Surdoes ar gyfer surdoes go iawn.
Os mae hyn yn berthnasol i bob cynnyrch wedi’i bobi, yna bydd poster neu arwyddion eraill i wneud hyn yn hollol glir.
Heb arwydd o'r fath, efallai mai dim ond rhai torthau sy'n bodloni’r maen prawf sylfaenol ‘rhydd o ychwanegion’ yr Ymgyrch/sy'n surdoes go iawn a dylech ofyn er mwyn bod yn siŵr.
Rydym yn argymell bod Y Marc Torth hefyd yn cael ei ddefnyddio yn y mannau priodol ar wefannau.
Efallai y bydd rhai busnesau llai yn darparu'r wybodaeth hon ar daflenni wrth ymyl y ‘pwynt gwerthu’ (e.e. wrth ymyl y torthau mewn siop neu stondin)
Er mwyn rhoi cyfle i chi wneud dewis mwy gwybodus, rydyn ni'n annog pob pobydd a manwerthwr torth i arddangos rhestr lawn o’r cynhwysion. Rydyn ni hefyd yn annog pobyddion Bara Go Iawn i adael i chi wybod ym mha ffyrdd eraill y mae eu bara yn fara gwell.
Sut i ymuno â'r cynllun
Eisiau ymuno â'r cannoedd o siopau bara sydd wedi ymuno â'r cynllun ers 2011?
Gwych!
Dyma sut:
Os ydych chi'n bobydd, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw arwyddo cytundeb y byddwch chi'n defnyddio Y Marc Torth Bara Go Iawn yn unig i'ch helpu chi i farchnata cynhyrchion sy'n surdoes go iawn neu sydd fel arall yn cydymffurfio â diffiniad sylfaenol yr Ymgyrch o Fara Go Iawn (Real Bread)
Os ydych chi'n fanwerthwr, y cyfan sydd angen i chi ei wneud arwyddo cytundeb er mwyn defnyddio Y Marc Torth i hyrwyddo surdoes go iawn neu Fara Go Iawn arall o siop fara sydd wedi ymuno â'r cynllun hefyd.
Yna byddwn yn ateb i roi gwybod i chi beth yw’r ffi weinyddu berthnasol.
Er nad oes yn rhaid i chi fod yn gefnogwr Ymgyrch Bara Go Iawn, byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno â ni - mae ffioedd is neu gynllun hepgor ffioedd ar gael mewn rhai achosion ar wahanol lefelau i gefnogwyr yr Ymgyrch.
Cyfieithiad Cymraeg gan Helo Blod
Real Bread Campaign: Finding and sharing ways to make bread better for us, our communities and planet.