Ble: Caerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin, Powys
Beth: Cynllun peilot sy’n cyflenwi llysiau organig i ysgolion drwy wasanaethau arlwyo chwe awdurdod lleol. Mae’r cynllun peilot yn talu’r gwahaniaeth rhwng prisiau cyfanwerthu organig Cymdeithas y Pridd a’r prisiau y byddai’r Awdurdod Lleol yn eu talu fel arfer am lysiau anorganig. Amcangyfrifir fod hyn tua 50% ar hyn o bryd.
Beth mae’n ei ddangos: Pŵer trefniant ble mae ffermwyr yn gweithio ar gynllun tyfu ar y cyd gyda’r cyfanwerthwr ac Awdurdodau Lleol. Ble mae angen cymorth i ffermwyr. Gosod Safon Cyflenwyr newydd ar gyfer ffrwythau a llysiau lleol organig yn y sector bwyd cyhoeddus. Cyfle i newydd-ddyfodiaid yn y maes garddwriaeth organig.
Dulliau gweithredu: Caffael bwyd yn y sector cyhoeddus, cadwyni cyflenwi cynaliadwy, strategaeth garddwriaeth, ymchwil weithredu, ail-greu cysylltiadau mewn cadwyni cyflenwi.
Y stori: Ddwy flynedd yn ôl, ymunodd Synnwyr Bwyd Cymru â’r cyfanwerthwr Castell Howell a phartneriaid eraill, gan gynnwys Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gynnal y Cynllun Courgettes. Roedd y cyfanwerthwr yn barod i ymgymryd â’r her i gynnwys mwy o lysiau amaeth-ecolegol lleol yn y prydau bwyd ysgol yr oedd yn eu cyflenwi. Felly aeth ati i brynu courgettes amaeth-ecolegol gan un ffermwr yn ystod gwyliau’r haf i’w cyflenwi fel rhan o raglen Bwyd a Hwyl gwyliau’r haf yng Nghaerdydd.
Yn 2023, gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, datblygodd y prosiect caffael hwn i fod yn gam cyntaf Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru, gan weithio gyda thri thyfwr bwyd mewn tair ardal awdurdod lleol a gyda chefnogaeth cydlynwyr y partneriaethau bwyd leol yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy. Mae’r prosiect hefyd wedi cael cymorth gan Gyngor Sir Fynwy drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Yn ystod Gwanwyn 2024, dyfarnwyd arian ychwanegol i Synnwyr Bwyd Cymru gan Pontio’r Bwlch i ehangu’r gwaith ymhellach ac i greu rhwydwaith ehangach fyth o arbenigedd a chymorth. Gydag arian Pontio’r Bwlch mae’r cynllun peilot yn cefnogi’r broses o gyflenwi amrywiaeth o lysiau gan wyth ffermwr organig o Gymru mewn ysgolion ar draws chwe awdurdod lleol.
Drwy gydweithio, mae’r ffermwyr yn gallu cynllunio beth i’w blannu er mwyn bodloni anghenion bwydlenni’r ysgolion. Mae’r incwm gwarantedig a’r cymorth drwy’r cynllun peilot wedi galluogi’r tyfwyr bwyd i blannu mwy, ac i blannu cnydau newydd mewn rhai achosion.
Gallwch weld ffilm ar y prosiect yma
Cwrdd â’r Tyfwyr
Mae gennym dyfwyr bwyd anhygoel yn rhan o’r prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru. Dyma ragor o wybodaeth am rai o’r cynhyrchwyr sy’n cymryd rhan.
Fferm Langtons:
Mae Fferm Langtons yn cael ei rhedeg gan Katherine a David Langton sy’n cyflenwi bocsys llysiau Organig lleol yn ardal ddwyreiniol Bannau Brycheiniog o’u gardd farchnad yng Nghrucywel. Yn ddiweddar maent wedi ehangu eu cynnyrch llysiau Organig i gynnwys eu fferm ger Aberteifi a fydd yn tyfu llawer o ffrwythau a llysiau ar gyfer eu bocsys llysiau, ar gyfer cyfanwerthu, ac i’w cyflenwi i ysgolion Cymru.
Alfie Dan:
Dechreuodd Marie a Barnsey Ardd Farchnad Alfie Dan yn 2021 ar un erw o dir. Erbyn heddiw, mae ganddynt dair erw ble maen nhw’n tyfu llysiau a ffrwythau a’u gwerthu i’r gymuned leol mewn bocsys llysiau ac ar ffurf stondin gonestrwydd. Maen nhw hefyd yn ymweld â marchnadoedd ffermwyr lleol i hyrwyddo cynnyrch ffres a chynnyrch organig, lleol.
Blas Gwent:
Busnes a ddechreuodd ar 9 erw o dir yw Blas Gwent, sydd wedi’i leoli rhwng Caerdydd a Chasnewydd ac sy’n cael ei redeg gan Jono Hughes, Holly Tomlinson a Mariesa Denobo. Nod Blas Gwent yw creu cwmni cydweithredol o weithwyr dan berchnogaeth y gymuned sy’n canolbwyntio ar ddysgu a hyfforddi dulliau ffermio llysiau ecolegol, yn ogystal â chefnogi’r broses o ddatblygu gardd farchnad amdrefol yn ne Cymru.
“Rydym yn teimlo bod gan drefniadau caffael ysgolion y potensial i sbarduno’r broses o atgyfodi dulliau ffermio cymysg traddodiadol yng Nghymru, ac i ddatblygu perthynas iach â bwyd ymysg y genhedlaeth iau. Mae gan y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru botensial mawr i gefnogi adferiad ecolegol, iechyd y cyhoedd a chyfleoedd cyflogaeth iach. Rydym yn falch o gael bod yn rhan o’r prosiect cydweithredol hwn.”
Jono Hughes
Bonvilston Edge:
Arferai Emma a Geraint weithio ym myd busnes a thechnoleg ac fe wnaethant ddechrau tyfu llysiau yn ystod y pandemig Covid. Ers hynny mae’r busnes wedi esblygu ac mae ganddynt 70 o goed afalau a gellyg, 80 o goed ceirios a 4 cwch gwenyn. Maen nhw hefyd yn tyfu amrywiaeth eang o lysiau ac yn dechrau arbenigo mewn winwns, courgettes, pwmpenni cnau menyn a blodfresych. Maen nhw’n cyflenwi’r bwyd yn lleol, ac yn ei dyfu’n gynaliadwy ac yn organig, a’r bwriad yw cael ardystiad organig ymhen dwy flynedd.
Fferm Underwood
Mae Fferm Underwood yn cael ei rhedeg gan Kate a Calum ac maen nhw’n cyflogi dau aelod arall o staff. Wedi’i lleoli ym mharc cenedlaethol Sir Benfro, mae’r fferm yn tyfu amrywiaeth eang o lysiau cymysg ac yn eu gwerthu i fwytai, caffis a siopau lleol, gan arbenigo mewn dail cymysg. Mae’r fferm hefyd yn rhedeg cynllun bocsys llysiau i aelwydydd yn yr ardal.
Partneriaid y prosiect:
- Synnwyr Bwyd Cymru
- Castell Howell
- Garddwriaeth Cyswllt Ffermio - Lantra
- Partneriaethau Bwyd Cynaliadwy
- CYD Cymru
Y camau nesaf: Ehangu. Creu endid Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru a denu buddsoddiad i ehangu’r broses gynhyrchu, denu tyfwyr bwyd newydd ac ehangu’r farchnad drwy gynnwys mwy o Awdurdodau Lleol.
Y nod polisi arfaethedig:
Creu model i fuddsoddi mewn cadwyn gyflenwi gynaliadwy sy’n cefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd gan liniaru newid hinsawdd yn ogystal â chynyddu bioamrywiaeth.
Bridging the Gap: Exploring ways to make organic food more accessible via farmer-focused supply chains.