Beth: Cynllun peilot talebau sy’n galluogi pobl ar incwm isel yng Nghaerdydd i wario £11 yr wythnos ar ffrwythau a llysiau drwy eu prynu’n uniongyrchol gan ffermwyr neu stondinau llysiau a ffrwythau organig a chyfeillgar i’r blaned ym Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd.
Ble: Caerdydd, Cymru
Pa rai o’r chwe agwedd mae hyn yn ei gwmpasu: Talebau, Manwerthwyr lleol
Beth mae’n ei ddangos:
- Parodrwydd i deithio at fanwerthwr lleol i gael gafael ar ffrwythau a llysiau organig am bris gostyngol.
- Ymdeimlad o lesiant o ganlyniad i gael mynediad at ffrwythau a llysiau organig a theimlo’n rhan o gymuned y farchnad
- Mwy o ffrwythau a llysiau yn cael eu bwyta a chael syniad o flas
Y stori: Yng Nghaerdydd, daeth Pontio’r Bwlch â phobl o gymunedau ethnig amrywiol at ei gilydd, ynghyd â ffermwyr, manwerthwyr a deietegwyr i ganfod ffyrdd o sicrhau bod ffrwythau a llysiau organig yn fwy fforddiadwy i bobl ar incwm is.
Meddyliodd y grŵp am y syniad o greu Cerdyn y Blaned i bobl allu ei ddefnyddio yn y tair marchnad ffermwyr yn y ddinas sef Rhiwbeina, y Rhath a Glan-yr-afon. Datblygwyd hyn ymhellach mewn ail weithdy cyd-greu er mwyn i’r grŵp cychwynnol o’r rhai sy’n derbyn Cerdyn y Blaned allu pennu’n union sut y byddai’r cerdyn yn gweithio. Mae gwerth hyd at £11 ar y cerdyn bob wythnos.
Cyflwynwyd y cynllun peilot mewn dau gam. Ar ôl i’r grŵp cychwynnol ddylunio a threialu’r cerdyn, gwelwyd bod angen sefydlu system ddigidol effeithiol i fanwerthwyr a siopwyr. Gwelwyd hefyd mai’r rhai sydd fwyaf tebygol o siopa yn y marchnadoedd yw’r rhai sy’n byw yn agos atynt. Felly bydd cam 2, sy’n dechrau fis Hydref 2024, yn cynnwys pobl sy’n barod i deithio i’r marchnadoedd gan ddefnyddio system ddigidol.
Un o’r tyfwyr bwyd sy’n cefnogi’r cynllun yw Pawel Wisniewski, sy’n rhedeg Paul’s Organic Veg yn Sir Fynwy. Meddai:
"Fel ffermwr organig, rwy’n teimlo’n angerddol ynglŷn â darparu’r bwyd gorau posibl i bobl. Bwyd yw conglfaen ein hiechyd, a gall gwneud dewisiadau bwyd da nawr arwain at ddyfodol iachach. Mae’r prosiect hwn yn hynod gyffrous gan ei fod yn gadael i mi rannu’r angerdd hwn a chysylltu â chwsmeriaid newydd, gan eu helpu i wneud dewisiadau iachach a chael mynediad at fwyd o safon uchel."
Mae cynllun peilot Caerdydd wedi cael ei gydlynu drwy rwydwaith Bwyd Caerdydd sy’n cysylltu pobl a phrosiectau sy’n gweithio i hyrwyddo bwyd iach, amgylcheddol gynaliadwy a moesegol ar draws y ddinas. Deilliodd y syniad ar gyfer Cerdyn y Blaned o weithdai cymunedol Syniadau Mawr a drefnwyd gan Bwyd Caerdydd.
Meddai Cydlynydd Bwyd Caerdydd, Pearl Costello:
"Mae Bwyd Caerdydd yn falch o gefnogi ein partneriaid, gan gynnwys Marchnad Ffermwyr Caerdydd, i ddatblygu’r cynllun arloesol hwn. Mae’n cyd-fynd yn berffaith â chenhadaeth Bwyd Caerdydd i sicrhau bod bwyd da wrth wraidd cymunedau cryf, iach a chadarn. Mae Cerdyn y Blaned hefyd yn gam gwych tuag sicrhau bod Caerdydd yn derbyn gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, gan ddangos cryfder mudiad bwyd da y ddinas gan wneud dewisiadau bwyd sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd yn fwy hygyrch a fforddiadwy."
Partneriaid y prosiect:
- Marchnad Ffermwyr Caerdydd
- Bwyd Caerdydd
- Prifysgol Gorllewin Lloegr
- Paul’s Organic Veg
- Coed Organic
- Slad Valey Mushrooms
Cefnogwyr:
- Deietegwyr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Y camau nesaf: Ar ôl cam 2, ehangu i fannau manwerthu eraill yng Nghaerdydd
Bridging the Gap: Exploring ways to make organic food more accessible via farmer-focused supply chains.