Sustain yn cael arian gan y Loteri Genedlaethol i helpu i sicrhau bod deiet sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd ar gael i bawb

Bydd Sustain, Growing Communities ac Elusen Alexandra Rose (ARC), yn gweithio gyda Synnwyr Bwyd Cymru, Nourish Scotland a Nourish Northern Ireland i ddod â sefydliadau lleol a mentrau masnachu ynghyd. Gyda’i gilydd, byddant yn cynnal cynlluniau peilot ym mhob un o wledydd y DU i oresgyn rhwystrau'n ymwneud â phrisio a rhwystrau eraill, gan sicrhau bod bwydydd sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a natur ar gael i bobl ar incwm is.

 “Rydym am sicrhau ein bod yn pontio o gymorth bwyd i fasnach bwyd er mwyn darparu bwyd iach, fforddiadwy sy'n gyfeillgar i'r blaned i bawb,” meddai Kath Dalmeny, Prif Weithredwr yr elusen bwyd a ffermio genedlaethol Sustain.

“Ar hyn o bryd mae bwyd sy'n dda i bobl ac i'r blaned, sydd o fudd i gymunedau ac sy'n cefnogi bywoliaeth dda, yn ddrytach na bwyd sy'n wael i iechyd ac wedi'i gynhyrchu mewn ffyrdd sy'n niweidio'r blaned. Os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r argyfyngau costau byw, yr hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol yn uniongyrchol, mae angen i ni wneud deiet iach, sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd yn norm a sicrhau ei fod ar gael i bawb.“

Bydd y rhaglen Pontio'r Bwlch yn dysgu oddi wrth fentrau lleol bach ac yn adeiladu arnynt gydag atebion addawol, megis y Good Food Box sy'n cael ei redeg gan Granville Community Kitchen yng Ngogledd-orllewin Llundain. Mae'r fenter hon yn defnyddio graddfa brisiau symudol i helpu'r rhai ar incwm isel. Ceir enghraifft arall yn Preston, lle mae gan The Larder gynlluniau i ddarparu bwyd organig a gynhyrchwyd yn lleol i deuluoedd ar incwm isel drwy dalebau a phecynnau ryseitiau. Nod Pontio'r Bwlch yw cywain tystiolaeth ac adeiladu momentwm ar gyfer y syniadau hyn, fel y gall cyllidwyr a llunwyr polisïau gefnogi modelau credadwy, a sicrhau bod y modelau gorau yn dod yn fodelau prif ffrwd.

“Mae rhaglenni blaenorol wedi tueddu i ganolbwyntio ar ddarparu bwyd i bobl ar incwm isel neu ddatblygu'r gadwyn gyflenwi sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a natur. Gyda’r rhaglen arloesol hon, mae gennym gyfle i brofi ac archwilio modelau darparu bwyd sy’n gwneud y ddau ar yr un pryd. Bydd yn waith heriol y mae mawr ei angen ac rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ei gefnogi,” meddai Julie Brown, Cyfarwyddwr Growing Communities.

Mae'r rhaglen i'w chroesawu, yn arbennig mewn cyfnod ble rydym wedi gweld dros 300 o ardaloedd yn datgan argyfwng hinsawdd a natur, ynghyd â chynnydd dramatig yn y defnydd o fanciau bwyd, gydag Ymddiriedolaeth Trussell yn unig yn cofnodi cynnydd o 31% yn y galw dros y 5 mlynedd diwethaf. Mae'r argyfwng costau byw yn rhoi pwysau ychwanegol ar aelwydydd incwm isel, sydd, yn ôl y Sefydliad Bwyd, yn aml yn gorfod gwario 40% o'u hincwm ar fwyd os ydynt am fodloni argymhellion bwyta'n iach. Mae hyn o'i gymharu â dim ond 7% o incwm gwario ar gyfer y pumed cyfoethocaf o'r boblogaeth. Yn ogystal â gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, mae hyn hefyd yn golygu bod llawer o fwydydd sy'n cael eu cynhyrchu mewn ffyrdd y mae angen i ni eu hannog, fel tyfu ffrwythau a llysiau mewn ffordd gynaliadwy, allan o gyrraedd y rhai ar incwm isel.

“Yn Elusen Alexandra Rose, rydym wedi arloesi drwy gyflwyno cymhellion ariannol i frwydro yn erbyn diffyg diogeledd bwyd a gwella deiet i deuluoedd ar incwm isel ledled y DU. Mae ein gwaith ar y Prosiect Talebau Rose ar gyfer Ffrwythau a Llysiau wedi dangos ei bod yn bosibl ysgogi gwell mynediad at fwyd iach. Rydym yn teimlo'n gyffrous ynglŷn â photensial y rhaglen Pontio’r Bwlch i brofi y gellir ymestyn hyn i gynnwys mynediad nid yn unig at fwyd iach, ond hefyd at fwyd cynaliadwy sydd o les i bobl yn ogystal ag i'r blaned,” meddai Jonathan Pauling, Prif Weithredwr ARC.

Dywedodd Faiza Khan, Cyfarwyddwr Ymgysylltu a Mewnwelediad Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, “Rydym yn falch o fod yn cefnogi Pontio’r Bwlch i sicrhau bod bwyd ecogyfeillgar yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bob cymuned. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd elusennau a grwpiau lleol ledled y DU yn cael eu dwyn ynghyd i helpu i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn, gan wella bywydau pobl a’u galluogi i ffynnu.”

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi mwy na £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU.

Bydd gweithio gyda’r cadwyni cyflenwi bwyd presennol neu fasnachwyr bwyd cymunedol a chreu atebion hirdymor hyfyw a chynaliadwy sy’n symud i ffwrdd o gymorth bwyd brys yn allweddol i lwyddiant y rhaglen Pontio'r Bwlch. Bydd y rhaglen yn atal problemau megis incwm isel i weithwyr bwyd, a gwastraff bwyd a achosir gan orgynhyrchu ar gyfer cyflenwad archfarchnadoedd cyfaint uchel rhag bwrw gwreiddiau. Mae'r tîm yn croesawu cyfranogiad sefydliadau eraill sy'n mynd i'r afael â'r materion hyn a bydd yn recriwtio cynghorwyr i grŵp cydweithio.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer newyddion a diweddariadau ewch i www.sustainweb.org/bridge-the-gap neu e-bost bontiothegap@sustainweb.org.

Mae Sustain yn recriwtio Cydlynydd Rhaglen Pontio’r Bwlch (y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Gorffennaf) a bydd yn chwilio am banel o gynghorwyr cyflogedig dros yr haf.

Bridging the Gap: Bridging the Gap to climate and nature friendly food for all.

Support our charity

Donate to enhance the health and welfare of people, animals and the planet.

Donate

Sustain
The Green House
244-254 Cambridge Heath Road
London E2 9DA

020 3559 6777
sustain@sustainweb.org

Sustain advocates food and agriculture policies and practices that enhance the health and welfare of people and animals, improve the working and living environment, promote equity and enrich society and culture.

© Sustain 2024
Registered charity (no. 1018643)
Data privacy & cookies

Sustain